EDF Renewables UK yn cynnal ail rownd o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar gyfer Parc Ynni Adnewyddadwy Hirfynydd

Icon arrow

Mae EDF Renewables UK yn cynnal ei ail rownd o ymgynghori cyhoeddus ar Barc Ynni Adnewyddadwy arfaethedig Hirfynydd, prosiect hybrid yn ne Cymru a fyddai’n cynnwys hyd at saith tyrbin, aráe solar a storfa batris.

Bydd trigolion lleol yn cael cyfle i ddarganfod mwy a gwneud sylwadau ar gynlluniau gyda diwrnodau gwybodaeth yn cael eu cynnal ddydd Gwener 12 Mai yn Neuadd Gymunedol Blaendulais (3pm – 6pm) a dydd Sadwrn 13 Mai yng Nghanolfan Gymunedol y Creunant (10am – 2pm).

Cynhaliwyd rownd gyntaf yr ymgynghoriad yr hydref diwethaf, ac ers hynny mae’r tîm wedi myfyrio ar yr adborth a dderbyniwyd ac wedi cynnal mwy o arolygon ac asesiadau ar y safle i fireinio cynlluniau.

Dywedodd Simon Morgan, Prif Reolwr Datblygu EDF Renewables:

“Newid hinsawdd yw’r her fwyaf rydym erioed wedi’i hwynebu ac mae’n digwydd nawr. Mae angen prosiectau fel Hirfynydd arnom i ddatgarboneiddio ein dyfodol. Rydym eisiau datblygu’r prosiect hwn yn sensitif, mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol, i leihau effeithiau a sicrhau’r buddion mwyaf posibl.

“Rydym yn llawn cyffro ynghylch yr hyn y gallai’r prosiect hwn ei gyflawni, nid yn unig o ran ynni adnewyddadwy ond hefyd y gadwyn gyflenwi a chyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â’r gronfa gymunedol flynyddol bosibl o £270,000.

“Roedd yr adborth a gawsom o’r ymgynghoriad cyntaf yn werthfawr a byddwn yn annog pobl i barhau i rannu eu barn, eu dirnadaeth a’u gwybodaeth leol. Byddwn yn parhau i fireinio ein cynlluniau wrth i ni symud tuag at gyflwyno ein cais cynllunio.”

Y diwrnodau gwybodaeth hyn yw’r ail rownd o ddigwyddiadau ymgynghori anffurfiol a bwriedir cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni. Nid oes angen archebu lle i fynychu’r digwyddiadau hyn. Bydd gwybodaeth a’r cyfle i roi adborth hefyd ar gael ar-lein yn www.edf-re.uk/our-sites/hirfynydd i’r rhai na allant ddod yn bersonol.


EDF Renewables UK

Mae EDF Renewables UK ac Ireland (www.edf-re.uk) yn is-gwmni i EDF Group, un o gwmnïau trydan carbon isel mwyaf y byd, ac mae ein buddsoddiad a’n harloesedd yn lleihau costau i ddefnyddwyr ac yn dod â manteision sylweddol i gymunedau.

Gyda’n portffolio gweithredu o 41 o safleoedd ynni adnewyddadwy gan gynnwys batris, solar PV, gwynt ar y tir ac ar y môr (gyda’i gilydd yn fwy nag 1 GW) rydym yn darparu trydan fforddiadwy, carbon isel y mae mawr ei angen. Mae gennym bortffolio sy’n ehangu gyda bron i 10GW o brosiectau wrthi’n cael eu cynllunio a’u datblygu, gan gynnwys gwynt, batri a PV solar.

Yng Nghymru, mae gan EDF Renewables UK uchelgeisiau mawr gan gynnwys Fferm Wynt Garn Fach yn y canolbarth a Pharc Ynni Hirfynydd yn ne Cymru.

Mae gan ein tîm yng Nghymru gyfoeth o brofiad o ddatblygu, adeiladu a gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy yma. Rydym yn falch o weithredu Llangwyryfon, ein fferm wynt ger Aberystwyth a fferm wynt Cemaes ger Machynlleth yn ogystal ag adeiladu prosiect solar Porth Wen yng ngogledd Ynys Môn.

Mae EDF Renewables UK hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Octo Partners i ddatblygu Fferm Solar Eirlys yn ne Cymru a gyda DP Energy i gyflwyno Gwynt Glas, fferm wynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd gyda chapasiti o hyd at 1GW.

Am ragor o wybodaeth:

Ffion Davies
Rheolwr Materion Allanol Cymru
EDF Renewables UK, Y Deyrnas Unedig
E ffion.davies@edf-re.uk
Ff +44 7920 287728
www.edf-re.uk

News & Views
26 Apr 2024
News & Views
21 Mar 2024