Fferm Wynt Garn Fach
- Project Type: Onshore wind
- Country: Wales
- Location: Powys
Byddai’r safle’n gallu cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy ar gyfer 69,000 o gartrefi* a helpu Llywodraethau Cymru a’r DU i gyrraedd targedau hinsawdd.
*Ffactor cynhwysedd 35% – ffigwr ceidwadol yn seiliedig ar fesuriadau o’r mast ar y safle. Defnydd cyfartalog cartrefi o 3,772 kWh o’r defnydd o Ynni yn y DU (www.gov.uk)
Mae’r cais cynllunio ar gyfer fferm wynt yn Garn Fach, i’r de o’r Drenewydd, bellach wedi’i ddilysu ac wedi symud ymlaen i ran ffurfiol nesaf y broses gynllunio.
Cyhoeddwyd y cynllun am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020 ac ers hynny mae EDF Renewables UK wedi cwblhau asesiadau ac arolygon o’r safle, yn ogystal â thri ymarfer ymgynghori cyhoeddus, gan gynnwys ymgynghori ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol drafft yr hydref diwethaf (2021). Nawr, bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru – adran o Lywodraeth Cymru – yn cynnal ei ymgynghoriad eu hun ac yna archwiliad o’r cais cyn rhoi ei argymhellion i Weinidogion Cymru am benderfyniad terfynol. Arweinir rhan hon y broses gan arolygydd cynllunio annibynnol.
Gellir lawrlwytho’r holl ddogfennau cais (cliciwch ar y dolenni uchod). Fel arall, gallwch weld y dogfennau cynllunio ar borth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru gan ddefnyddio rhif cyfeirnod 3244499. Mae gan ymatebwyr hyd at 28 Mehefin 2022 i wneud eu sylwadau.
Rydym ni’n falch o’r buddsoddiad rydym ni’n ei wneud yn y cymunedau sy’n cynnal ein prosiectau ac rydym ni’n gweithio gyda chwmnïau lleol a rhanbarthol lle bynnag y bo modd. Ni wedi sefydlu grŵp cyswllt cymunedol Fferm Wynt Garn Fach sy’n cynnwys cynrychiolwyr lleol. Rydym ni’n aelod o Siambr Fasnach Canolbarth Cymru a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru ac rydym ni eisoes wedi contractio gyda 10 cwmni o Gymru ar ddatblygu prosiectau. Dyma rai o’r buddion y gallai ein Fferm Wynt Garn Fach eu cynnig:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu â ni, mae croeso i chi e-bostio garn.fach@edf-re.uk.